Updating Basket....

Sign In
0 Items

BASKET SUMMARY

There are currently no items added to the basket
Sign In
0 Items

BASKET SUMMARY

There are currently no items added to the basket

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth

This item is available to order.
Please allow 2-3 weeks for delivery.

Paperback / softback

£16.99

Publisher: University of Wales Press
ISBN: 9781786831262
Number of Pages: 144
Published: 25/05/2017
Width: 13.8 cm
Height: 21.6 cm
Dyma'r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o'r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i'r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau'r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau'r Credo, 'Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear'? Ac a fedrant goleddu'r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy'r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu'r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid 'yr atheistiaeth newydd' yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl - cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o'r naill yn cyfoethogi'n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i'n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy'n tarddu yn ei fwriad a'i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy'n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.
Rhagarweiniad Pennod 1: Edrych yn ol: rhai trobwyntiau hanesyddol Pennod 2: Gwyddoniaeth a diwinyddiaeth: rhai seiliau athronyddol Pennod 3: Y Glec Fawr, y cread a Duw Pennod 4: Siawns, cynllun ac anghenraid Pennod 5: Darwin, DNA a Duw Pennod 6: Biotechnoleg a datblygiadau meddygol Pennod 7: Y natur ddynol Pennod 8: Glendid maith y cread: Cristnogion a'r amgylchedd Pennod 9: Credwn yn Nuw Llyfryddiaeth Ddethol Cyfeiriadaeth

T. Hefin Jones, Noel Davies

Mae Noel Davies yn academydd a diwinydd sydd bellach wedi ymddeol. Mae T. Hefin Jones yn uwch ddarlithydd mewn Biowyddoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.